Croeso
Canolfan encil Gristnogol a thŷ gweddi yw Ffald y Brenin wedi ei leoli yng nghanol mynyddoedd mawreddog y Preseli yng Ngorllewin Cymru.
Croeso i’r Ffald
Ystyr Ffald y Brenin yw “sheepfold of the king” - enw addas ar gyfer lle a sefydlwyd i gynnig gorffwys ac adfywiad oddi wrth bwysau bywyd.
Dros y blynyddoedd, daeth miloedd o bobl i’r lle anghysbell hwn sy’n nythu yng Nghwm Gwaun yng Ngorllewin Cymru gan dod o hyd i bresenoldeb yr Arglwydd. Rydym yn dal i gael ein cyffroi gan y modd y mae Duw’n cyfarfod â phobl yma gan roi adnewyddiad, datguddiad, cyfeiriad, iachâd gwyrthiol ac arwyddion eraill o’i bresenoldeb a’i gariad.
Yn ogystal â bod yn ganolfan encil, mae Ffald y Brenin hefyd yn dŷ gweddi, ac mae’n dyddiau’n cylchdroi o gwmpas rhythm gweddi ddyddiol.


Tynnwch anadl….. ac yna anadlwch allan
Mae dwy edau gyflenwol wedi eu gwehyddu i ffabrig Ffald y Brenin. Yr edau gyntaf yw gorffwys, adfywiad, adnewyddiad ac iachâd ym mhresenoldeb Duw - anadlu i fewn ei Ysbryd.
Yr ail edau yw eiriolaeth, trugaredd, bendith, ffydd ac ymestyn byd-eang - yr anadlu allan o gariad Duw. Mae’r Ysbryd Glân yn troi ein golygon tuag at ein cymydog wrth inni ddwyn ei bresenoldeb allan i’r byd.
Gwahoddwn chi i brofi melysder presenoldeb Duw yn y lle tawel, ac yna derbyn yr egni a’r gallu i fendithio a charu eich cymydog.
Dyma beth mae’n gwesteion yn ei ddweud
“Golygfeydd godidog, teithiau cerdded ardderchog, lolfa ac ystafell ddydd gysurus, ystafelloedd gwely cyffyrddus. Y fath eneiniad gan Dduw yn y ganolfan hon”
Marion S
“Lle hardd i fedru stopio a chlywed yn fwy eglur yr hyn y mae Duw yn ei ddweud. Mae’r rhythm gweddi’n hyfryd, ac yn caniatáu amsugniad dyfnach o’i air. Cawsom weinidogaeth weddi hyfryd ein hunain. A gwelsom eraill yn derbyn yr un peth. Fe fyddwn yn dychwelyd.”
Lindsay B
“Lle tawel adfyfyriol mewn byd prysur, i’w werthfawrogi bob amser.“
John B
O’r Blog
Muddied Waters
Our head gardener embraces the slippery muck of the lily pond and shares some reflections on how God turns our muddied waters into blessings.
Seeking Photo Entries for the Ffald y Brenin Calendar
We’re working on next year’s wall calendar! Want to submit your photo for consideration? Here are the guidelines.
Words of Life at Sycamore Gap
Our words can provide beauty and shelter. Here are some tips for how to build someone up (and a peek at our new greeting cards!)



