Gweddi

Rhythm Gweddi Ddyddiol

Mae Rhythm Gweddi’n gorwedd wrth galon Ffald y Brenin. Dyma guriad bywyd sy’n llunio’n dydd. Croesewir ymwelwyr i ymuno yn ein cyfnodau gweddi yn ystod eu arhosiad.

Cynhwysir ein fframwaith yn ein llyfryn Gweddi Ddyddiol..  

 

Rydym yn gweddïo’n araf ac yn fyfyrgar. Gall ychwanegu rhythm gweddi at eich bywyd beunyddiol ddarparu strwythur i’ch amser gyda’r Arglwydd.

Yn ystod wythnos arferol mae ein rhythm fel a ganlyn. Mae croeso i chi ymuno â ni yn union ble’r ydych chi. Croeso hefyd i chi addasu’r amseroedd yn ôl eich amserlen.  

9:30yb - Boreol Weddi

Deffro, fy enaid! Deffro, nabl a thelyn! Dw i'n mynd i ddeffro'r wawr gyda'm cân.

 

12:45yp - Gweddi Canol Dydd

Cawn seibiant oddi wrth ein gwaith ar yr amser yma, a bod yn ymwybodol fod presenoldeb Duw yma, gan synhwyro’i Ysbryd o’n cwmpas ac o’n mewn.

5:00yh - Hwyrol Weddi

O godiad haul hyd ei fachlud bydded enw’r Arglwydd yn foliannus.

Rhythm Gweddi Ddyddiol

 Mae’n llyfryn Gweddi Ddyddiol ni’n cynnwys ein gweddi foreol, ganol dydd, hwyrol a nos, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Darlleniadau Dyddiol

“Peidiwch â chael eich cyngerdd yn gyntaf ac yna tiwnio’ch offeryn. Dechreuwch eich dydd gyda gair Duw a gweddi, a dod, yn gyntaf, mewn i harmoni gydag Ef.”


– Hudson Taylor 
  

Yn ychwanegol at Rhythm Gweddi Ddyddiol, rydym yn dilyn Cylch o Ddarlleniadau Dyddiol sy’n cynnwys amrywiaeth o’r Hen Destament a’r Testamaent Newydd. Mae myfyrio ar yr Ysgrythur yn help i ddwyn ein calonnau a’n meddyliau i gydredeg yn nes gyda gwirionedd Duw. Mae Ei air yn ein hannog i ‘weddïo’n ddibaid’ a medrwn wneud hyn yn well pan fydd gennym Ei air yn gudd yn ein calonnau.

Gallwch ddilyn fel y mynnwch drwy glicio ar y mis isod, neu drwy archebu copi caled yma.

“Yn y bore, gweddi yw’r allwedd sy’n agor i ni drysorau trugareddau a bendithion Duw; yn yr hwyr, dyma’r allwedd sy’n ein cau’n ddiogel o dan Ei amddiffyniad a’i ddiogelwch.”

– Billy Graham

Dyddiau Gweddi

Amser addoliad, addysgu a gweddi yw’r Dydd Gweddi, a bu’n rhan o wneuthuriad Ffald y Brenin ers blynyddoedd lawer. Er bod pobl fel arfer o bedwar ban byd wedi bod yn bresennol yn cymryd rhan, gorfododd COVID ni i osod y Dydd Gweddi ar lein. Rydym yn craffu’n weddïgar beth fydd patrwm y tymor newydd hwn ar gyfer digwyddiadau gweddi, ond yn y cyfamser, mae croeso i chi wylio isod ein Dyddiau Gweddi mwyaf diweddar.

TAI GWEDDI LLEOL

Mudiad gweddi a ddechreuwyd yn Ffald y Brenin yw Tai Gweddi LLeol ac erbyn hyn mae wedi lledaenu ar draws y byd, gyda grwpiau o Gristnogion yn mabwysiadu ardal fechan leol i’r Iesu, gan addoli a gweddïo am i Deyrnas Dduw dorri drwodd a chael ei hamlygu, a datgan bendithion i’r ardal. Ydych chi am gychwyn Tŷ Gweddi Lleol o fewn eich cymuned chi?  

Ffald y Brenin Trust Ltd is a company limited by guarantee registered in England and Wales (Company no. 8070275 | Charity no.1148032), whose registered office is at Pontfaen, Fishguard, SA65 9UA 

Copyright © The Ffald-y-Brenin Trust Limited. The site was designed and built by exibit.

We've just purchased the farm next door! Learn more here.

X