Ymweliad
Gwesteion dros nos
We welcome you to stay with us!
Bookings are now open for July to December 2026. If you’d like to enquire regarding availability, please email bookings@ffald-y-brenin.org and include your name, address, telephone number and the dates you’d like to visit.
*Please note: Our arrival and departure days are Monday, Wednesday, and Friday. This enables you to stay 4 or 2 nights Monday to Friday, or 3 nights at the weekend, or a longer stay of one week.
We are fully booked during the summer. We will list cancellations below as they arise:
Currently we have no cancellations.

Y Feudwyfa

St. Padarn

Y Lodj

St. Kentigern

Y Ganolfan
“Roeddwn am dreulio f’amser mewn gweddi ac astudiaeth ac roedd y lle hwn yn berffaith…rhoddodd yr Iesu Ei orau i fi”
Ymwelwyr Dydd
We would love for you to spend some time with us here. You can explore the grounds, use the Chapel or Prayer Room and join us in our rhythm of Prayer. You can also enjoy the beautiful view with a hot drink in the Day Room. If you are a group of 5 or more just give us a call on 01348 881419 so that we know you are coming or email us at bookings@ffald-y-brenin.org otherwise we look forward to seeing you when you call in.
Cyfranogi ac Archwilio
Lleolir ni yng Nghwm Gwaun bendigedig, ger Bae Ceredigion gyda’i lwybrau cerdded diddiwedd. Mae gerddi Ffald y Brenin a’r ardal o gwmpas megis gwahoddiad i dreulio amser ym mhresenoldeb Duw, i ddathlu ei greadigaeth a chael adferiad meddwl a chorff.
YMUNWCH Â NI AM WEDDI DDYDDIOL
Dilynwch rythm newydd
ADDOLWCH GER Y GROES UCHEL
Dewch â’ch llawenydd a’ch beichiau
o flaen yr Arglwydd
CERDDWCH Y MYNYDDOEDD
Myfyriwch ar y llwybrau hynafol
Darllenwch ac ymlaciwch yn yr ystafell ddydd
Mwynhewch y golygfeydd a chwtsho lan gyda phaned a llyfr da
GWEDDÏWCH YN Y CAPEL
treuliwch amser ym mhresenoldeb Duw
DRINGWCH YR UCHELFANNAU
Canfyddwch bersbectif ehangach
ewch lawr i’r dyffryn
Cerddwch, proseswch a gweddïwch
MWYNHWECH YN Y GERDDI
Ymhyfrydwch yn nigonedd bywiol Duw
ANWESWCH Y LLONYDDWCH
Gwrandewch ar yr hyn y mae Duw am ddweud wrthych chi
Ymweld â'r Arfordir
Mwynhau'r traethau lleol
CYSYLLTWCH AG ADFYWIAD
wrth i chi gerdded y tir
ARHOSWCH YN HWYR YN Y GWELY
Gadewch i Dduw adfer eich corff
DYSGWCH A THYFWCH
Archwiliwch ein hadnoddau
i ddyfnhau eich ffydd
Sut i Gyrraedd Yma
Ein cyfeiriad
Ffald y Brenin,
Pontfaen, Abergwaun
Pembrokeshire, SA65 9UA
Tel. 01348 881419
Rydym yng Nghwm Gwaun, dwy filltir o bentref Pontfaen, i’r dwyrain o Abergwaun ac i’r de o Drefdraeth.
Rydym yn argymell yr ap lleoliad What3words. Teipiwch ‘lays amazed wildfire’ ar what3words er mwyn dod o hyd i Ffald y Brenin!
Gyrru
[Os yn bosib, defnyddiwch Google maps a chwilio am 'Ffald y Brenin Trust SA65 9UA’ - AC NID pentref Ffald y Brenin yn Sir Gaerfyrddin]
O’r dwyrain: Dilynwch yr A40 i’r gorllewin o Gaerfyrddin tuag at Abergwaun. Ar ôl Llanddewi Efelffre trowch i’r dde ar y gylchfan fawr tuag at Aberteifi. Gyrrwch 1 filltir, ac yna troi i’r chwith ar groesffordd fach tuag at Maenclochog.
Ym Maenclochog, i’r dde ar gyffordd T, ymlaen heibio Rosebush at groesffordd fawr. Ewch yn syth drosodd am 3 milltir cywir, yna i’r dde tuag at Gwm Gwaun; ar ôl chwarter milltir trowch ar droad cudd i’r chwith, ewch i lawr i’r cwm. Ar gyffordd T: i’r dde am 2 filltir - mae’n rhodfa ni’n codi i’r chwith, nesaf at safle bicnic Sychpant.
O’r gogledd: dilynwch y cyfarwyddiadau i Aberteifi gan aros ar yr A487 tuag at Abergwaun. Ar ôl 9.5 milltir trowch i’r chwith ar groesfan i Gwm Gwaun, yna’n syth ar draws y groesffordd nesaf, gan ddilyn pob arwydd Cwm Gwaun tan i chi weld safle bicnic y Parc Cenedlaethol Sychpant (ar y dde). Mae’r rhodfa i Ffald y Brenin yn syth nesaf ati.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Ar y rheilffordd: teithiwch at Orsaf Abergwaun a Wdig (tua 30 munud i ffwrdd) ac yna cymryd tacsi i Ffald y Brenin.
Fferi: (o’r Iwerddon): Mae Fferïau Stena’n dod yn feunyddiol i Wdig o Rosslare.
Cwestiynau a holir yn aml
Gaf i ymweld am y dydd?
Yes! You can explore the grounds, spend time in the Chapel or Prayer Room and join us in our rhythm of Prayer. You can also enjoy the beautiful view with a hot drink in the Day Room. We do ask if you are a group of 5 or more to book your visit by calling us on 01348 881382 neu ebostio bookings@ffald-y-brenin.org otherwise just pop in.
Sut mae cyrraedd Ffald y Brenin?
Rydym yn wledig iawn, ac awgrymwn deithio mewn car. Gellwch gael cyfarwyddiadau yma.Os nad ydych yn gyrru, gellwch ddal trên i Abergwaun a Wdig (tua 30 munud i ffwrdd0 ac yna tacsi atom ni.
Beth yw’r orsaf drên agosaf i Ffald y Brenin?
Ble mae’r maes awyr agosaf i Ffald y Brenin?
Y maes awyr agosaf yw Caerdydd, ond o bosib y cewch chi brisau rhatach o Fryste neu unrhyw faes awyr yn Llundain.
A oes raid i fi ddod â dillad gwely (os wyf yn aros ar y safle)?
Na, DOES DIM rhaid dod â dillad gwely. Dewch â thywel, bwyd a diod yn unig.
A oes arlwyo ar gael?
Mae’n ddrwg gennym ond dydyn ni ddim ar hyn o bryd yn cynnig gwasanaeth arlwyo.
A ydych yn cynnig encilion o dan arweiniad?
Na, dydyn i ddim yn cynnig encilion o dan arweiniad ar hyn o bryd.
Oes lle i fi goginio fy mwyd?
Oes, mae yno amrywiaeth o gyfleusterau cegin ar gael ar y safle. Ceir mwy o wybodaeth ar yr ebost sy’n cadarnhau eich bwciad.
Ble mae’r pwynt gwefru agosaf ar gyfer ceir trydan?
Y ddau bwynt gwefru agosaf yw:
Maes Parcio Longstreet, Long Street, Trefdraeth, SA42 0TJ (tua 15 munud o daith o Ffald y Brenin)
Maes Parcio West Street, West Street, Abergwaun, SA65 9NJ (tua 20 munud o daith o Ffald y Brenin)
